- Gartref
- Gwybodaeth
Ynglŷn â'r Feddygfa
Cwrdd â'r Tîm
Gwybodaeth i Gleifion
- Gwasanaethau
Presgripsiynau
Clinigau
- Dolenni Defnyddiol
- Hunanofal
- Clinigau
- Cysylltwch â Ni
Beth yw Fy Iechyd Ar-lein?
My Health Online is a new, online service that St Peter’s Surgery is now using in conjunction with NHS Wales.
Ar ôl i chi greu cyfrif, byddwch yn gallu defnyddio'r nodweddion y mae eich meddygfa yn eu cynnig, ac a all gynnwys:
- Gwneud a chanslo apwyntiadau
- Gwneud cais am bresgripsiynau amlroddadwy
- Diweddaru eich gwybodaeth bersonol
- Edrych ar grynodeb o'ch cofnodion meddygol
Cwestiynau Cyffredin ynghylch Fy Iechyd Ar-lein.
Sut mae cofrestru ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein?
Cyn y gallwch ddefnyddio'r holl gyfleusterau sydd ar Fy Iechyd Ar-lein, dylech gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth. Er mwyn cofrestru, rhaid i chi gael llythyr cofrestru gan eich meddygfa. Os nad oes gennych lythyr, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai o'r nodweddion.
Yn ystod y broses gofrestru gofynnir i chi brofi eich hunaniaeth trwy gyflwyno pasbort/trwydded yrru, a bil cyfleustodau fel prawf o'ch cyfeiriad.
Ar ôl i chi gael eich llythyr cofrestru, ewch i dudalen gofrestru Fy Iechyd Ar-lein .
Cofnodwch Rif Adnabod y Feddygfa, sydd yn eich llythyr cofrestru.
Cofnodwch Rif Adnabod y Cyfrif a'r Allwedd Gysylltu o'ch llythyr cofrestru. Yna llenwch fanylion y cyfrif fel y gofynnir amdanynt. Anfonir neges e-bost atoch i gadarnhau eich bod wedi cwblhau'r broses gofrestru, felly sicrhewch eich bod yn defnyddio eich cyfrif e-bost personol eich hun wrth gofrestru.
A yw fy manylion yn ddiogel?
Caiff yr holl wybodaeth bersonol ar Fy Iechyd Ar-lein ei diogelu gan ddefnyddio'r safonau uchaf o ran diogelwch ar y Rhyngrwyd.
Pam y dylwn ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein?
Just like online banking you can sign up for a range of online services from your GP. Although these will vary from practice to practice and will depend on what your practice is offering.
Advantages of online services include:
- Dim oedi ar y ffôn, aros i fynd trwodd i'r feddygfa,
- Convenient access to GP services from home or work — or anywhere
with internet access - Llai o waith gweinyddol i'r feddygfa.